A yw hi’n iawn i ddefnyddio’r un cyfeiriad e-bost?

Efallai y byddai’n well gan aelodau o’r un teulu sydd wedi cofrestru ar gyfer Fy Iechyd Ar-lein ddefnyddio’r un cyfeiriad e-bost.

Argymhellir yn gryf defnyddio cyfeiriadau e-bost unigol, lle y bo’n bosibl. Pan fydd yr un cyfeiriad e-bost yn cael ei ddefnyddio, bydd unrhyw negeseuon e-bost cadarnhau apwyntiadau a meddyginiaeth yn cael eu hanfon i’r un cyfeiriad e-bost, a all arwain ar dorri cyfrinachedd.

Os byddwch yn penderfynu defnyddio’r un cyfeiriad e-bost ar gyfer nifer o gleifion, cofiwch ddiweddaru manylion cyfeiriad e-bost pob claf unigol os byddant yn newid.

Cofiwch – Cliciwch ar y ddolen ar y sgrin Creoso i ddiweddaru’r cyfeiriad e-bost sydd gan eich meddygfa ar eich cyfer.
Sylwer – I argraffu’r pwnc hwn, dewiswch y botwm argraffu yn y cornel uchaf ar y dde, a dilyn yr anogwyr ar y sgrin.